Cofnodion y cyfarfod diwethaf
13 Ionawr 2015
12.30-13.15
Ystafell Gynadledda 24, Tŷ Hywel
YN BRESENNOL: |
||
|
||
David Rees AC (Cadeirydd) |
DR |
Aberafan (Llafur Cymru) |
Eluned Parrott AC |
EP |
Canol De Cymru (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) |
Bethan Jenkins AC |
BJ |
Dwyrain De Cymru (Plaid Cymru) |
|
||
Colin Palfrey |
CP |
Staff Cymorth Lindsay Whittle |
Claire Stowell |
CS |
Staff Cymorth Rebecca Evans |
John Williams |
JW |
Staff Cymorth Kirsty Williams |
|
||
Katie Dalton (ysgrifennydd) |
KD |
Gofal |
Martin Bell |
MB |
Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain |
Stuart Burge Jones |
SBJ |
Mental Health Action Wales |
Ruth Coombs |
RC |
Mind Cymru |
Rhiannon Hedge |
RhH |
Mind Cymru |
Ewan Hilton |
EH |
Gofal |
Junaid Iqbal |
JI |
Fforwm Cenedlaethol Gofalwyr a Defnyddwyr Gwasanaethau |
Richard Jones |
RJ |
Mental Health Matters Wales |
Peter Martin |
PM |
Hafal |
Linda Newton |
LN |
Mental Health Action Wales |
Manel Tippett |
MT |
Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru |
CPGMH/NAW4/37 - Croeso ac ymddiheuriadau |
Camau Gweithredu |
Croesawodd DE bawb a oedd yn bresennol i gyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Iechyd Meddwl. Ymddiheuriadau gan aelodau absennol: · Darren Millar (Ceidwadwyr Cymreig) · Kirsty Williams AC (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) · Suzanne Duvall (Diverse Cymru) · Sarah Stone (Samariaid) |
|
CPGMH/NAW4/38 - Cofnodion y cyfarfod diwethaf |
Camau Gweithredu |
CYMERADWYWYD Cofnodion y cyfarfod diwethaf. |
|
CPGMH/NAW4/39 –Camau gweithredu o'r cyfarfod diwethaf |
Camau Gweithredu |
Rhoddodd KD y wybodaeth ddiweddaraf i'r grŵp am y camau a gymerwyd ers y cyfarfod diwethaf.
· CPGMH/NAW4/31 – Ethol Cadeirydd newydd CAM I’W GYMRYD: KD i ddrafftio llythyr gan DR i RE, i'w llongyfarch ar ei dyrchafiad ac i ddiolch iddi am gadeirio'r grŵp trawsbleidiol. Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: Drafftiwyd y llythyr a'i anfon at RE.
· CPGMH/NAW4/32 - Law yn Llaw at Iechyd Meddwl: Barn defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr CAM I’W GYMRYD: KD i ddrafftio cwestiynau gyda Chynghrair Iechyd Meddwl Cymru (CIMC) a'i anfon at Aelodau'r Cynulliad. Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: Drafftiwyd y cwestiynau a'u hanfon at Aelodau'r Cynulliad.
· CPGMH / NAW4 / 24 - Mynediad i, a darparu therapi seicolegol yng Nghymru CAM I’W GYMRYD: KD i ddrafftio llythyr gan DR i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch mynediad at therapïau seicolegol. Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: Drafftiwyd y llythyr gyda chytundeb y rhanddeiliaid perthnasol a'i anfon at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Roedd DR wedi cael ymateb gan y Gweinidog ychydig cyn dechrau cyfarfod y grŵp trawsbleidiol. |
KD i ddosbarthu'r ymateb gan y Gweinidog i aelodau |
CPGMH/NAW4/40 - Adolygiad o'r cyllid a glustnodwyd ar gyfer iechyd meddwl |
Camau Gweithredu |
PM: Mae PwC wedi cael eu comisiynu gan Lywodraeth Cymru i gynnal yr adolygiad i'r cyllid a glustnodwyd ar gyfer iechyd meddwl. Maent wedi cynhyrchu cyfres o gwestiynau ac wedi eu dosbarthu i randdeiliaid. Ni ddylem anghofio'r sail resymegol dros glustnodi'r cyllid hwn – yr oedd i fod i symboleiddio'r flaenoriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i iechyd meddwl. · Mae cyfran o gyllid pob bwrdd iechyd wedi'i glustnodi ar gyfer iechyd meddwl – yr isafswm y gallant ei wario bob blwyddyn. · Nid yw gwasanaethau iechyd meddwl yn ddiogel rhag arbedion effeithlonrwydd - ond mae'n rhaid ail-fuddsoddi arbedion mewn gwasanaethau iechyd meddwl. Ers cyflwyno'r cam o glustnodi cyllid ar gyfer iechyd meddwl mae pob bwrdd iechyd wedi gwario mwy na'r isafswm ar iechyd meddwl – fodd bynnag, nid yw'r arbedion wedi cael eu hail-fuddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl. Fel arfer, mae gwariant ar iechyd meddwl yn 11-12% o wariant y GIG yng Nghymru, fodd bynnag, mae'r 'baich' amcangyfrifedig o salwch meddwl yn 23%. Mae gwariant ar iechyd meddwl wedi cynyddu yn ystod y /deng mlynedd diwethaf - ond gostyngodd yn 2012/13. Rydym yn gobeithio y bydd PwC yn edrych ar yr heriau, y problemau a'r gwersi a ddysgwyd – ac yn cyflwyno argymhellion ar gyfer cynyddu tryloywder a chryfhau'r dull o glustnodi cyllid. EH Nid yw lefelau uchel o wariant o reidrwydd yn golygu pobl yn cael gwasanaethau o ansawdd uchel. Nid yw'r trefniadau presennol o glustnodi cyllid yn mesur ansawdd. Dylai'r adolygiad argymell system newydd sy'n mesur canlyniadau yn erbyn gwariant - nid gwario yn unig. |
KD i ddosbarthu'r cwestiynau ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall i Aelodau'r Cynulliad. |
CPGMH/NAW4/41 - Adroddiad blynyddol Law yn Llaw at Iechyd Meddwl |
Camau Gweithredu |
DR: Cafodd adroddiad blynyddol Law yn Llaw at Iechyd Meddwl ei ddosbarthu i Aelodau'r Cynulliad yr wythnos ddiwethaf er mwyn paratoi ar gyfer y ddadl y prynhawn yma. Cynrychiolaeth gan ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr · Mae'n dda cael cynrychiolaeth o ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr ar y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol. · Fodd bynnag, mae adnoddau/cefnogaeth ar gael iddynt fynychu tri chyfarfod y flwyddyn o'r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol yn unig – nid yw hyn yn ddigon da, yn enwedig pan fo Law yn Llaw at Iechyd Meddwl i fod i ymwneud ag ymgysylltu â'r boblogaeth gyfan ar draws y sector. Gallai hyn gael ei weld fel cynrychiolaeth symbolaidd – mae angen adnoddau a chefnogaeth ar aelodau sy'n ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr i'w helpu i ymgysylltu'n ehangach â defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr a rhanddeiliaid. · Mae angen gwella amrywiaeth y defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr a gynrychiolir – mae'n bwysig i glywed gan bobl o grwpiau sy'n anodd eu cyrraedd a'r rhai sydd â nodweddion gwarchodedig. Bydd gwella amrywiaeth yn arwain at farn gryfach a gwell canlyniadau. · A ddylai'r Gweinidog ystyried cyhoeddi safonau ynghylch cynrychiolaeth defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr ac ymgysylltu â hwy? · Mae materion yn codi gyda diffyg atebolrwydd ar draws y sector – caiff y rhan fwyaf o gyfarfodydd eu harwain gan iechyd, er bod Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yn strategaeth draws-sector. Mae angen rhagor o arweinyddiaeth ac atebolrwydd gan awdurdodau lleol. Canlyniadau: · Yn falch bod Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yn arwain ar ganlyniadau, ond nid ydym wedi gweld tystiolaeth bod systemau ar waith i gasglu canlyniadau. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar gasglu data, ond mae angen i ni weld rhagor o gynnydd. · Mae'r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol wedi cymeradwyo darnau o waith/prosesau yn hytrach na chanlyniadau. · Er enghraifft: Yn Lloegr, maent yn gwybod pa ganran o bobl sy'n defnyddio gwasanaethau eilaidd sydd mewn gwaith neu mewn llety sefydlog ac yn gallu gweld a yw'r ffigurau hyn yn gwella dros amser. Gellir dangos canlyniadau yn glir - ond nid yw'r math hwn o ddata ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd. · Cwestiwn ynghylch a ellir defnyddio gwaith academaidd parhaus i helpu i fesur canlyniadau. Cynigiodd RC i ddarganfod rhagor o wybodaeth am y gwaith a wneir gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl a'i ddosbarthu i aelodau. · Pwynt Allweddol: Mae'n bwysig bod profiadau a chanlyniadau yn cael eu casglu o safbwynt y defnyddwyr gwasanaethau. · Mae arolwg Gofal yn cofnodi profiadau cleifion o agweddau, y driniaeth a gynigir, amseroedd aros a chanlyniadau ym maes gofal sylfaenol – ond caiff yr arolwg ei ariannu tan ddiwedd 2014/15 yn unig · Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yn bwriadu cynnal arolwg o fodlonrwydd defnyddwyr gwasanaethau · Mae Mind Cymru yn/wedi cynnal arolygon o brofiadau cleifion o eiriolaeth, ond caiff y gwaith hwn ei ariannu tan ddiwedd 2014/15 hefyd Agweddau a gwerthoedd · Mae'r mater hwn yn cael ei gofnodi yn un o chwe chanlyniad lefel uchel Law yn Llaw at Iechyd Meddwl ac, felly, dylai fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. · Roedd yn un o'r prif faterion a godwyd gan ddefnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr a'r trydydd sector yn ystod y broses o ddatblygu Law yn Llaw at Iechyd Meddwl. · Mae pryder nad oes unrhyw dystiolaeth bod hyn yn cael ei fesur. Cynlluniau gofal a thriniaeth · Bydd adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yn yr wythnos. · Er bod cynlluniau gofal a thriniaeth yn cael eu gweithredu, nid oes unrhyw ofyniad ar gydgysylltwyr gofal i fynd i'r afael â mwy nag un o'r wyth maes bywyd · Roedd y cynlluniau gofal a thriniaeth i fod i ystyried y person cyfan mewn dull holistaidd ond mae rhai ond yn cofnodi'r feddyginiaeth. Mae pryderon nad yw cynlluniau gofal a thriniaeth yn mynd i'r afael â llety ynghyd â materion cymdeithasol/diwylliannol/ysbrydol. · Mae pwyslais wedi bod ar sicrhau bod gan 90% o bobl sy'n defnyddio gwasanaethau eilaidd gynllun gofal a thriniaeth. Mae cynlluniau gofal a thriniaeth yn arf da - ond mae byrddau iechyd wedi bod yn canolbwyntio ar broses/allbynnau – yn rhannol oherwydd targed Llywodraeth Cymru. · Mae angen ffocws nawr ar wella ansawdd y cynlluniau gofal a thriniaeth a gwella canlyniadau i gleifion. · Dylai data cynlluniau gofal a thriniaeth gael eu cysylltu â chynllunio/comisiynu gwasanaethau strategol fel bod y gwasanaethau a ddarperir yn cyfateb i anghenion y defnyddwyr. · Cafwyd 19 o astudiaethau peilot oedd yn canolbwyntio ar ddatblygu cynlluniau gofal a thriniaeth sy'n canolbwyntio ar amcanion penodol ond rydym yn ansicr ynghylch beth sydd wedi deillio o'r rhain. · Problem arall yw nad yw rhai pobl yn gwybod bod ganddynt gynllun gofal a thriniaeth – er gwaetha'r gofyniad y dylai defnyddwyr gwasanaethau gael eu cynnwys yn y broses o ddatblygu cynlluniau gofal a thriniaeth. Roedd cynlluniau gofal a thriniaeth i fod i rymuso pobl i chwarae rôl ystyrlon yn y broses o gynllunio eu gofal eu hunain. · Mae cynlluniau gofal a thriniaeth yn gam ymlaen ar gyfer pobl oedd heb ddim byd cyn hynny. · Mae rhai pobl wedi cael gwell profiadau o ddefnyddio gwasanaethau yn sgil cynlluniau gofal a thriniaeth ac wedi elwa o gymryd rhan mewn penderfyniadau ynghylch eu gofal eu hunain. Gall cynnwys neu rymuso defnyddwyr gwasanaeth fod yn therapiwtig. · Mae llawer o weithwyr iechyd proffesiynol yn gwneud gwaith da, ond mae amrywiaeth o ran ansawdd. Therapïau Seicolegol · Mae pob un o'r prif faterion yn cael eu cofnodi yn y cwestiynau a baratowyd ar gyfer Aelodau'r Cynulliad ac maent yn ymwneud â thrafodaethau a gynhaliwyd yn ystod cyfarfodydd grwpiau trawsbleidiol blaenorol: mynediad i driniaethau a'r dewis ohonynt; cysondeb yn y ddarpariaeth; gwybodaeth i gleifion; sgiliau/hyfforddiant; goruchwyliaeth glinigol; casglu canlyniadau i gleifion.
|
RC i ddarganfod rhagor am waith y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl a'i ddosbarthu |
CPGMH/NAW4/36 - Dyddiadau cyfarfodydd y dyfodol |
Camau Gweithredu |
CYTUNWYD: y byddai'r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar ôl toriad y Pasg. Diolchodd DR i bawb am eu presenoldeb. |
KD i drefnu |